Y Cymro Elfyn Evans oedd y ceffyl blaen yn y ddau brawf cyflymder agoriadol nos Iau wrth i Rali Monte-Carlo agor calendr Pencampwriaeth Rali’r Byd 2024.

Roedd yn glir o’r cychwyn cyntaf bod Evans, a orffennodd y bencampwriaeth yn yr ail safle y llynedd, yn benderfynol o wneud ei farc. Fe ddaeth â’r cymal agoriadol byr i ben gyda mantais o 15.1 eiliad dros Thierry Neuville.