Yn dilyn ras heriol, trwy’r tywydd mwyaf garw, fe lwyddodd y Cymro Stevie Williams i ennill ras La Flèche Wallonne brynhawn Mercher.

Williams yw’r Cymro, a’r Prydeiniwr, cyntaf erioed i ennill y ras.

Dyma yn wir oedd buddugoliaeth fwyaf Williams hyd yn hyn yn ei yrfa, a hynny ychydig fisoedd ar ôl iddo ennill y Tour Down Under.

Cafodd Rhodri Gomer gyfle i sgwrsio ag ef yn sydyn wedi’r fuddugoliaeth yn Awstralia. Gallwch wylio’r cyfweliad hwnnw yma.

Beth yw’r La Flèche Wallonne?

Ras un diwrnod yw’r La Flèche Wallonne sy’n cael ei chynnal yn flynyddol yng Ngwlad Belg.

Crëwyd y ras i hybu gwerthiant papur newydd Les Sports yn ystod y 1930au ac fe’i chynhaliwyd gyntaf ym 1936.

Mae’r ras, fel nifer o’r rasys mawr, wedi newid o ran llwybr y daith a’i hyd dros y blynyddoedd. Dechreuodd fel ras 236km gan dyfu i fod yn 300km erbyn 1938. Erbyn heddiw, mae’r ras yn 201km ac yn dechrau yn Charleroi cyn teithio tua’r dwyrain at Huy.

Mae’r reidwyr yn gorfod cwblhau cylchred anodd deirgwaith, gan gynnwys dringfeydd anodd Mur de Huy. Mae’r ras yn gorffen ar ben y Mur ac ystyrir esgyniad ‘y Mur’ yn nodwedd eiconig ac yn un o elfennau mwyaf arwyddocal y ras.

Buddugoliaeth i Stevie

Er gwaethaf amodau hynod o heriol, gyda’r reidwyr yn wynebu gwyntoedd cryf, glaw trwm ac eira,

Cynhyrchodd Williams, o dîm Israel-Premier Tech, ymdrech arwrol ar ddringfa olaf y Mur, gan dorri o’r pac gyda 275m i fynd.

Ar ôl y ras dywedodd Williams; “Am ddiwrnod, rydw i mor hapus ar hyn o bryd. Rwy’n methu redu fy mod i newydd ennill Flèche. Rwyf wedi bod yn gwylio’r ras hon ers blynyddoedd ac rwyf wastad wedi bod eisiau dod i drio ei hennill.”

“Rwy’n mwynhau rasio yn y math hwn o dywydd ac i ddod i ffwrdd â’r fuddugoliaeth, rwyf ar ben fy nigon. Cefnogodd y bechgyn fi drwy’r dydd a rhoi’r cyfle gorau i mi geisio gwneud canlyniad heddiw.

“Does dim geiriau, rwy’n eithaf emosiynol a dweud y gwir. Mae’n gamp anodd iawn ac mae ennill rasys beic yn anodd, yn enwedig yma yn y Clasuron.”